Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 2:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. ac eto:“Ynddo ef y byddaf fi'n ymddiried”;ac eto fyth:“Wele fi a'r plant a roes Duw imi.”

14. Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol,

15. a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes.

16. Yn sicr, gafael y mae yn nisgynyddion Abraham ac nid mewn angylion.

17. Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl.

18. Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae'n gallu cynorthwyo'r rhai sydd yn cael eu temtio.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 2