Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 2:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Am hynny, rhaid i ni ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd, rhag inni fynd gyda'r llif.

2. Oherwydd os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn sicr, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod ei gyfiawn dâl,

3. pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth mor fawr—iachawdwriaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf drwy enau'r Arglwydd, a'i chadarnhau wedyn i ni gan y rhai oedd wedi ei glywed,

4. a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau, a gwyrthiau amrywiol, a thrwy gyfraniadau'r Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?

5. Oherwydd nid i angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw, y byd yr ydym yn sôn amdano.

6. Tystiolaethodd rhywun yn rhywle yn y geiriau hyn:“Beth yw dyn, iti ei gofio,a mab dyn, iti ofalu amdano?

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 2