Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid.

10. Oherwydd yr oedd ef yn disgwyl am ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi.

11. Trwy ffydd—a Sara hithau yn ddiffrwyth—y cafodd nerth i genhedlu plentyn, er cymaint ei oedran, am iddo gyfrif yn ffyddlon yr hwn oedd wedi addo.

12. Am hynny, felly, o un dyn, a hwnnw cystal â bod yn farw, fe gododd disgynyddion fel sêr y nef o ran eu nifer, ac fel tywod dirifedi glan y môr.

13. Mewn ffydd y bu farw'r rhai hyn oll, heb fod wedi derbyn yr hyn a addawyd, ond wedi ei weld a'i groesawu o bell, a chyfaddef mai dieithriaid ac ymdeithwyr oeddent ar y ddaear.

14. Y mae'r rhai sy'n llefaru fel hyn yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio mamwlad.

15. Ac yn wir, pe buasent wedi dal i feddwl am y wlad yr oeddent wedi mynd allan ohoni, buasent wedi cael cyfle i ddychwelyd iddi.

16. Ond y gwir yw eu bod yn dyheu am wlad well, sef gwlad nefol. Dyna pam nad oes ar Dduw gywilydd ohonynt, nac o gael ei alw yn Dduw iddynt, oherwydd y mae wedi paratoi dinas iddynt.

17. Trwy ffydd, pan osodwyd prawf arno, yr offrymodd Abraham Isaac. Yr oedd yr hwn oedd wedi croesawu'r addewidion yn barod i offrymu ei unig fab,

18. er bod Duw wedi dweud wrtho, “Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion.”

19. Oblegid barnodd y gallai Duw ei godi hyd yn oed oddi wrth y meirw; ac oddi wrth y meirw, yn wir, a siarad yn ffigurol, y cafodd ef yn ôl.

20. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer pethau i ddod.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11