Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:32-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. A beth a ddywedaf ymhellach? Fe ballai amser imi adrodd yn fanwl hanes Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd a Samuel a'r proffwydi,

33. y rhai drwy ffydd a oresgynnodd deyrnasoedd, a weithredodd gyfiawnder, a afaelodd yn yr addewidion, a gaeodd safnau llewod,

34. a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo.

35. Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad. Cafodd eraill eu harteithio, gan wrthod ymwared er mwyn cael atgyfodiad gwell.

36. Cafodd eraill brofi gwatwar a fflangell, ie, cadwynau hefyd, a charchar.

37. Fe'u llabyddiwyd, fe'u torrwyd â llif, fe'u rhoddwyd i farwolaeth â min y cledd; crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, dan orthrwm a chamdriniaeth,

38. rhai nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn tiroedd diffaith a mynyddoedd, ac yn cuddio mewn ogofeydd a thyllau yn y ddaear.

39. A'r rhai hyn oll, er iddynt dderbyn enw da trwy eu ffydd, ni chawsant feddiannu'r hyn a addawyd,

40. am fod Duw wedi rhagweld rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel nad ydynt hwy i gael eu perffeithio hebom ni.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11