Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:26-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach;

27. dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr.

28. Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion.

29. Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw.

30. Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd:“Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”;ac eto:“Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”

31. Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.

32. Cofiwch y dyddiau gynt pan fu i chwi, wedi eich goleuo, sefyll yn gadarn yng ngornest fawr eich cystuddiau:

33. weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10