Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:25-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.

26. Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach;

27. dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr.

28. Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion.

29. Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw.

30. Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd:“Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”;ac eto:“Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”

31. Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10