Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Oherwydd cysgod sydd gan y Gyfraith o'r pethau da sy'n dod, nid gwir ddelw y dirweddau hynny; ac ni all hi o gwbl, trwy'r un aberthau sy'n cael eu hoffrymu'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddwyn yr addolwyr i berffeithrwydd am byth.

2. Petasai hynny'n bosibl, oni fuasent wedi peidio â chael eu hoffrymu, gan na fuasai mwyach ymwybyddiaeth o bechodau gan addolwyr a oedd wedi eu puro un waith am byth?

3. Ond y mae yn yr aberthau goffâd bob blwyddyn am bechodau;

4. oherwydd y mae'n amhosibl i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10