Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 5:15-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Ond os cnoi a darnio'ch gilydd yr ydych, gofalwch na chewch eich difa gan eich gilydd.

16. Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd.

17. Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch.

18. Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith.

19. Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,

20. eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,

21. cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.

22. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.

23. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.

24. Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd â'i nwydau a'i chwantau.

25. Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd.

26. Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 5