Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 4:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,

5. i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad.

6. A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, “Abba! Dad!”

7. Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw.

8. Gynt, yn wir, a chwithau heb adnabod Duw, caethweision oeddech i fodau nad ydynt o ran eu natur yn dduwiau.

9. Ond yn awr, a chwithau wedi adnabod Duw, neu yn hytrach, wedi eich adnabod gan Dduw, sut y gallwch droi yn ôl at yr ysbrydion elfennig llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto?

10. Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych.

11. Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 4