Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 4:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma yr wyf yn ei olygu: cyhyd ag y mae'r etifedd dan oed, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn berchennog ar y stad i gyd.

2. Y mae dan geidwaid a goruchwylwyr hyd y dyddiad a benodwyd gan ei dad.

3. Felly ninnau, pan oeddem dan oed, yr oeddem wedi ein caethiwo dan ysbrydion elfennig y cyfanfyd.

4. Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,

5. i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad.

6. A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, “Abba! Dad!”

7. Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 4