Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 1:7-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Nid ei bod yn efengyl arall mewn gwirionedd, ond bod rhywrai, yn eu hawydd i wyrdroi Efengyl Crist, yn aflonyddu arnoch.

8. Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno!

9. Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno!

10. Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn â'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn.

11. Yr wyf am roi ar ddeall i chwi, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad rhywbeth dynol mohoni.

12. Oherwydd nid ei derbyn fel traddodiad dynol a wneuthum, na chael fy nysgu ynddi chwaith; trwy ddatguddiad Iesu Grist y cefais hi.

13. Oherwydd fe glywsoch am fy ymarweddiad gynt yn y grefydd Iddewig, imi fod yn erlid eglwys Dduw i'r eithaf ac yn ceisio'i difrodi hi,

14. ac imi gael y blaen, fel crefyddwr Iddewig, ar gyfoedion lawer yn fy nghenedl, gan gymaint mwy fy sêl dros draddodiadau fy hynafiaid.

15. Ond dyma Dduw, a'm neilltuodd o groth fy mam ac a'm galwodd trwy ei ras, yn dewis

16. datguddio ei Fab ynof fi, er mwyn i mi ei bregethu ymhlith y Cenhedloedd; ac ar unwaith, heb ymgynghori â neb dynol,

17. a heb fynd i fyny i Jerwsalem chwaith at y rhai oedd yn apostolion o'm blaen i, euthum i ffwrdd i Arabia, ac yna dychwelyd i Ddamascus.

18. Wedyn, ar ôl tair blynedd, mi euthum i fyny i Jerwsalem i ymgydnabyddu â Ceffas, ac arhosais gydag ef am bythefnos.

19. Ni welais neb arall o'r apostolion, ar wahân i Iago, brawd yr Arglwydd.

20. Gerbron Duw, nid celwydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 1