Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 1:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Oherwydd fe glywsoch am fy ymarweddiad gynt yn y grefydd Iddewig, imi fod yn erlid eglwys Dduw i'r eithaf ac yn ceisio'i difrodi hi,

14. ac imi gael y blaen, fel crefyddwr Iddewig, ar gyfoedion lawer yn fy nghenedl, gan gymaint mwy fy sêl dros draddodiadau fy hynafiaid.

15. Ond dyma Dduw, a'm neilltuodd o groth fy mam ac a'm galwodd trwy ei ras, yn dewis

16. datguddio ei Fab ynof fi, er mwyn i mi ei bregethu ymhlith y Cenhedloedd; ac ar unwaith, heb ymgynghori â neb dynol,

17. a heb fynd i fyny i Jerwsalem chwaith at y rhai oedd yn apostolion o'm blaen i, euthum i ffwrdd i Arabia, ac yna dychwelyd i Ddamascus.

18. Wedyn, ar ôl tair blynedd, mi euthum i fyny i Jerwsalem i ymgydnabyddu â Ceffas, ac arhosais gydag ef am bythefnos.

19. Ni welais neb arall o'r apostolion, ar wahân i Iago, brawd yr Arglwydd.

20. Gerbron Duw, nid celwydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch.

21. Wedyn euthum i diriogaethau Syria a Cilicia.

22. Nid oedd gan y cynulleidfaoedd sydd yng Nghrist yn Jwdea ddim adnabyddiaeth bersonol ohonof,

23. dim ond eu bod yn clywed rhai'n dweud, “Y mae ein herlidiwr gynt yn awr yn pregethu'r ffydd yr oedd yn ceisio'i difrodi o'r blaen.”

24. Ac yr oeddent yn gogoneddu Duw o'm hachos i.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 1