1. Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn.
2. “Anrhydedda dy dad a'th fam”—hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid:
3. “er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear.”
4. Chwi dadau, peidiwch â chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.
5. Chwi gaethweision, ufuddhewch i'ch meistri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon fel i Grist,
6. nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneud ewyllys Duw â'ch holl galon.
7. Rhowch wasanaeth ewyllysgar fel i'r Arglwydd, nid i ddynion,
8. oherwydd fe wyddoch y bydd pob un, boed gaeth neu rydd, yn derbyn tâl gan yr Arglwydd am ba ddaioni bynnag a wna.
9. Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth.
10. Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.