Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 5:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr.

3. Anfoesoldeb rhywiol, a phob aflendid a thrachwant, peidiwch hyd yn oed â'u henwi yn eich plith, fel y mae'n briodol i saint;

4. a'r un modd bryntni, a chleber ffôl, a siarad gwamal, pethau sy'n anweddus. Yn hytrach, geiriau diolch sy'n gweddu i chwi.

5. Gwyddoch hyn yn sicr, nad oes cyfran yn nheyrnas Crist a Duw i neb sy'n puteinio neu'n aflan, nac i neb sy'n drachwantus, hynny yw, yn addoli eilunod.

6. Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eiriau gwag neb; o achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai sy'n anufudd iddo.

7. Peidiwch felly â chyfathrachu â hwy;

8. tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni,

9. oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd.

10. Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd.

11. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.

12. Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel.

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 5