Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 8:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am tua hanner awr.

2. Yna gwelais y saith angel sy'n sefyll gerbron Duw; a rhoddwyd iddynt saith utgorn.

3. Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor â thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd.

4. O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddïau'r saint.

5. Cymerodd yr angel y thuser, a llanwodd hi â thân o'r allor a'i thaflu ar y ddaear; ac yna bu sŵn taranau a fflachiadau mellt a daeargryn.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 8