13. Syrthiodd sêr y nef i'r ddaear fel cawod o ffigys gleision oddi ar ffigysbren pan siglir ef gan wynt mawr.
14. Rhwygwyd y ffurfafen fel sgrôl yn cael ei dirwyn, a symudwyd pob mynydd ac ynys o'u lle.
15. A brenhinoedd y ddaear, y mawrion a'r cadfridogion, y cyfoethogion a'r cryfion, a phawb, yn gaethion ac yn rhyddion, cuddiasant eu hunain mewn ogofeydd ac yng nghreigiau'r mynyddoedd;
16. a dywedasant wrth y mynyddoedd a'r creigiau, “Syrthiwch arnom, a chuddiwch ni rhag wyneb yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd a rhag digofaint yr Oen,
17. oherwydd daeth dydd mawr eu digofaint hwy, a phwy all sefyll?”