Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 4:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yr oedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, a'r ail i lo; yr oedd gan y trydydd wyneb dynol, ac yr oedd y pedwerydd yn debyg i eryr yn hedfan.

8. I'r pedwar creadur byw yr oedd chwe adain yr un, ac yr oeddent yn llawn o lygaid o'u hamgylch ac o'u mewn, a heb orffwys ddydd na nos yr oeddent yn dweud:“Sanct, Sanct, Sanctyw'r Arglwydd Dduw hollalluog,yr hwn oedd a'r hwn sydd a'r hwn sydd i ddod!”

9. Pan fydd y creaduriaid byw yn rhoi gogoniant ac anrhydedd a diolch i'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sy'n byw byth bythoedd,

10. bydd y pedwar henuriad ar hugain yn syrthio o flaen yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, gan addoli'r hwn sy'n byw byth bythoedd, a bwrw eu coronau gerbron yr orsedd a dweud:

11. “Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw,i dderbyn y gogoniant a'r anrhydedd a'r gallu,oherwydd tydi a greodd bob peth,a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 4