Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 4:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn edrychais, ac wele ddrws wedi ei agor yn y nef; a dyma'r llais, a glywswn gyntaf yn llefaru wrthyf fel sŵn utgorn, yn dweud, “Tyrd i fyny yma, a dangosaf iti'r pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar ôl hyn.”

2. Ar unwaith, yr oeddwn yn yr Ysbryd; ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd.

3. Yr oedd hwn yn debyg ei olwg i faen iasbis a sardion, ac o amgylch yr orsedd yr oedd enfys debyg i emrallt.

4. O amgylch yr orsedd yr oedd hefyd bedair gorsedd ar hugain, ac ar y rhain bedwar henuriad ar hugain yn eistedd mewn dillad gwyn, ac ar eu pennau goronau aur.

5. O'r orsedd yr oedd fflachiadau mellt a sŵn taranau yn dod allan, ac yn llosgi gerbron yr orsedd yr oedd saith ffagl dân; y rhain yw saith ysbryd Duw.

6. O flaen yr orsedd yr oedd môr megis o wydr, tebyg i risial.Ac yng nghanol yr orsedd ac o'i hamgylch yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen a'r tu ôl.

7. Yr oedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, a'r ail i lo; yr oedd gan y trydydd wyneb dynol, ac yr oedd y pedwerydd yn debyg i eryr yn hedfan.

8. I'r pedwar creadur byw yr oedd chwe adain yr un, ac yr oeddent yn llawn o lygaid o'u hamgylch ac o'u mewn, a heb orffwys ddydd na nos yr oeddent yn dweud:“Sanct, Sanct, Sanctyw'r Arglwydd Dduw hollalluog,yr hwn oedd a'r hwn sydd a'r hwn sydd i ddod!”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 4