Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 19:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Rhoddwyd iddi hi i'w wisgoliain main disglair a glân,oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.”

9. Dywedodd yr angel wrthyf, “Ysgrifenna: ‘Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.’ ” Dywedodd wrthyf hefyd, “Dyma wir eiriau Duw.”

10. Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.”

11. Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela.

12. Yr oedd ei lygaid fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun.

13. Yr oedd y fantell amdano wedi ei throchi mewn gwaed, ac fe'i galwyd wrth yr enw Gair Duw.

14. Yn ei ganlyn ar geffylau gwynion yr oedd byddinoedd y nef, wedi eu gwisgo â lliain main disgleirwyn.

15. O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu â gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog.

16. Yn ysgrifenedig ar ei fantell ac ar ei glun y mae enw: “Brenin brenhinoedd, ac Arglwydd arglwyddi.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 19