14. Yn ei ganlyn ar geffylau gwynion yr oedd byddinoedd y nef, wedi eu gwisgo â lliain main disgleirwyn.
15. O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu â gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog.
16. Yn ysgrifenedig ar ei fantell ac ar ei glun y mae enw: “Brenin brenhinoedd, ac Arglwydd arglwyddi.”
17. Yna gwelais angel yn sefyll yn yr haul, a gwaeddodd â llais uchel wrth yr holl adar oedd yn hedfan yng nghanol y nef: “Dewch, ymgasglwch i wledd fawr Duw;
18. cewch fwyta cnawd brenhinoedd, cnawd cadfridogion, cnawd y cryfion, cnawd ceffylau a'u marchogion, a chnawd pawb, yn rhyddion ac yn gaethion, yn fach ac yn fawr.”
19. Gwelais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd, wedi ymgasglu i ryfela yn erbyn marchog y ceffyl a'i fyddin.
20. Daliwyd y bwystfil, ac ynghyd ag ef y gau broffwyd oedd wedi gwneud arwyddion gwyrthiol o'i flaen i dwyllo'r rhai oedd wedi derbyn nod y bwystfil ac addoli ei ddelw ef. Bwriwyd y ddau yn fyw i'r llyn tân oedd yn llosgi â brwmstan.
21. Lladdwyd y gweddill â'r cleddyf oedd yn dod allan o enau marchog y ceffyl, a chafodd yr holl adar eu gwala o'u cnawd hwy.