Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 19:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn clywais sŵn fel llais uchel tyrfa fawr yn y nef yn dweud:“Halelwia!Eiddo ein Duw ni y waredigaeth a'r gogoniant a'r gallu,

2. oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef,gan iddo farnu'r butain fawra lygrodd y ddaear â'i phuteindra,a dial gwaed ei weisionarni hi.”

3. A dywedasant eilwaith:“Halelwia!Bydd ei mwg hi'n codi byth bythoedd.”

4. Syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac addoli Duw, yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, a dweud:“Amen! Halelwia!”

5. A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw ni,chwi ei holl weision ef,a'r rhai sy'n ei ofni ef,yn fach a mawr.”

6. A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud:“Halelwia!Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog,wedi dechrau teyrnasu.

7. Llawenhawn a gorfoleddwn,a rhown iddo'r gogoniant,oherwydd daeth dydd priodas yr Oen,ac ymbaratôdd ei briodferch ef.

8. Rhoddwyd iddi hi i'w wisgoliain main disglair a glân,oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.”

9. Dywedodd yr angel wrthyf, “Ysgrifenna: ‘Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.’ ” Dywedodd wrthyf hefyd, “Dyma wir eiriau Duw.”

10. Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.”

11. Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 19