Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 18:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. a dweud:“Gwae, gwae'r ddinas fawr,sydd wedi ei gwisgo â lliain main,â phorffor ac ysgarlad,a'i thecáu â thlysau aur,â gemau gwerthfawr a pherlau,

17. oherwydd diffeithio cymaint o gyfoeth mewn un awr!”Yna cafwyd pob capten llong a phob teithiwr ar fôr, llongwyr a phawb sydd â'u gwaith ar y môr, yn sefyll o hirbell

18. ac yn gweiddi wrth weld mwg ei llosgi hi: “A fu dinas debyg i'r ddinas fawr?”

19. Bwriasant lwch ar eu pennau a gweiddi mewn dagrau a galar:“Gwae, gwae'r ddinas fawr,lle'r enillodd pawb a chanddynt longau ar y môrgyfoeth trwy ei golud hi,oherwydd ei diffeithio mewn un awr!”

20. O nef, gorfoledda drosti,a chwithau'r saint, a'r apostolion a'r proffwydi,oherwydd y farn a roes hi arnoch chwi a roes Duw arni hi.

21. Cododd angel nerthol garreg debyg i faen melin mawr a'i thaflu i'r môr a dweud:“Yr un mor ffyrnig yr hyrddir i'r ddaearFabilon, y ddinas fawr,ac nis ceir byth mwy.

22. A sain telynorion a cherddoriona rhai'n canu ffliwt ac utgorn,nis clywir ynot byth mwy;a phob un sy'n dilyn unrhyw grefft,nis ceir ynot byth mwy;a sŵn maen y felin,nis clywir ynot byth mwy;

23. a golau lamp,nis gwelir ynot byth mwy;a llais priodfab a phriodferch,nis clywir ynot byth mwy.Mawrion y ddaear oedd dy fasnachwyr di,a thwyllwyd yr holl genhedloedd gan dy ddewiniaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 18