Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 18:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn gwelais angel arall yn disgyn o'r nef, a chanddo awdurdod mawr; a goleuwyd y ddaear gan ei ogoniant ef.

2. Gwaeddodd â llais cryf:“Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr,aeth yn drigfa cythreuliaid,yn gyrchfa pob ysbryd aflan,yn gyrchfa pob aderyn aflan,ac yn gyrchfa pob bwystfil aflan ac atgas;

3. oherwydd o win llid ei phuteindray mae'r holl genhedloedd wedi yfed.Puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi,ac ymgyfoethogodd masnachwyr y ddaear ar ddigonedd ei moethusrwydd hi.”

4. Yna clywais lais arall o'r nef yn dweud:“Dewch allan ohoni, fy mhobl,rhag i chwi gyfranogi o'i phechodau,ac o'i phlâudderbyn rhan;

5. oherwydd pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef,a chadwodd Duw ei hanghyfiawnderau hi ar gof.

6. Talwch y pwyth yn ôl iddi,talwch hi'n ddyblyg am ei gweithredoedd;dyblwch iddi chwerwder y cwpan a gymysgodd hi;

7. yn ôl mesur ei rhwysg a'i moethusrwydd,rhowch iddi boenedigaeth a galar.Oherwydd yn ei chalon y mae'n dweud,‘Rwy'n eistedd yn frenhines,nid gweddw wyf,a galar ni welaf byth.’

8. Am hyn daw ei phlâu arni o fewn un dydd,marwolaeth, galar a newyn,a llosgir hi'n ulw â thân;oblegid nerthol yw'r Arglwydd Dduw, ei barnwr hi.”

9. Bydd brenhinoedd y ddaear, a buteiniodd gyda hi a byw'n foethus, yn wylo a galaru amdani, pan welant fwg ei llosgi hi.

10. Safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dweud:“Gwae, gwae'r ddinas fawr,Babilon, y ddinas nerthol,oherwydd mewn un awr daeth arnat dy farn!”

11. Bydd masnachwyr y ddaear yn wylo a galaru amdani, oherwydd nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau,

12. eu llwythi o aur ac arian, o emau gwerthfawr a pherlau, o liain main a sidan, o borffor ac ysgarlad; eu llwythi o bob pren persawrus ac o bob gwaith ifori a gwaith pren drudfawr neu bres neu haearn neu farmor;

13. eu llwythi o sinamon, sbeis a pherlysiau, o fyrr a thus, o win ac olew, o flawd mân a gwenith, o wartheg a defaid, o geffylau a cherbydau, o gaethweision a bywydau pobl.

14. Dywedant wrthi:“Y mae'r ffrwyth y chwenychodd dy enaid amdanowedi mynd oddi wrthyt,a'r holl wychder a'r ysblander oedd itiwedi diflannu oddi wrthyt,byth mwy i'w canfod!”

15. Bydd masnachwyr y nwyddau hyn, a enillodd eu cyfoeth drwyddi hi, yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, yn wylo a galaru

16. a dweud:“Gwae, gwae'r ddinas fawr,sydd wedi ei gwisgo â lliain main,â phorffor ac ysgarlad,a'i thecáu â thlysau aur,â gemau gwerthfawr a pherlau,

17. oherwydd diffeithio cymaint o gyfoeth mewn un awr!”Yna cafwyd pob capten llong a phob teithiwr ar fôr, llongwyr a phawb sydd â'u gwaith ar y môr, yn sefyll o hirbell

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 18