Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 16:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Arllwysodd yr ail ei ffiol i'r môr; a throes y môr yn debyg i waed corff marw, a bu farw popeth byw oedd yn y môr.

4. Arllwysodd y trydydd ei ffiol i'r afonydd ac i ffynhonnau'r dyfroedd; a throesant yn waed.

5. Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud:“Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un,yn y barnedigaethau hyn.

6. Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi,rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed;dyma eu haeddiant.”

7. Yna clywais yr allor yn dweud:“Ie, O Arglwydd Dduw hollalluog,gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau.”

8. Arllwysodd y pedwerydd angel ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo hawl i losgi pobl â thân.

9. Llosgwyd pobl yn enbyd, ond cablu a wnaethant enw Duw, yr hwn sydd ganddo awdurdod ar y plâu hyn; ni bu'n edifar ganddynt ac ni roesant ogoniant iddo.

10. Arllwysodd y pumed ei ffiol ar orsedd y bwystfil; a daeth tywyllwch ar ei deyrnas ef. Yr oedd pobl yn cnoi eu tafodau gan boen,

11. ac yn cablu enw Duw'r nef o achos eu poenau a'u cornwydydd, ond ni bu'n edifar ganddynt am eu gweithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 16