Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 16:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Clywais lais uchel o'r deml yn dweud wrth y saith angel, “Ewch ac arllwyswch ar y ddaear saith ffiol llid Duw.”

2. Aeth y cyntaf ac arllwys ei ffiol ar y ddaear; a chododd cornwydydd drwg a phoenus ar y rhai yr oedd nod y bwystfil arnynt ac a oedd yn addoli ei ddelw.

3. Arllwysodd yr ail ei ffiol i'r môr; a throes y môr yn debyg i waed corff marw, a bu farw popeth byw oedd yn y môr.

4. Arllwysodd y trydydd ei ffiol i'r afonydd ac i ffynhonnau'r dyfroedd; a throesant yn waed.

5. Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud:“Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un,yn y barnedigaethau hyn.

6. Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi,rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed;dyma eu haeddiant.”

7. Yna clywais yr allor yn dweud:“Ie, O Arglwydd Dduw hollalluog,gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau.”

8. Arllwysodd y pedwerydd angel ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo hawl i losgi pobl â thân.

9. Llosgwyd pobl yn enbyd, ond cablu a wnaethant enw Duw, yr hwn sydd ganddo awdurdod ar y plâu hyn; ni bu'n edifar ganddynt ac ni roesant ogoniant iddo.

10. Arllwysodd y pumed ei ffiol ar orsedd y bwystfil; a daeth tywyllwch ar ei deyrnas ef. Yr oedd pobl yn cnoi eu tafodau gan boen,

11. ac yn cablu enw Duw'r nef o achos eu poenau a'u cornwydydd, ond ni bu'n edifar ganddynt am eu gweithredoedd.

12. Arllwysodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, afon Ewffrates; a sychodd ei dyfroedd hi i baratoi ffordd i'r brenhinoedd o'r dwyrain.

13. Gwelais yn dod allan o enau'r ddraig ac o enau'r bwystfil ac o enau'r gau broffwyd dri ysbryd aflan, tebyg i lyffaint;

14. oherwydd ysbrydion cythreulig oeddent, yn gwneud arwyddion gwyrthiol. Ac aethant allan at frenhinoedd yr holl fyd i'w casglu ynghyd i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog.

15. (Wele, rwy'n dod fel lleidr. Gwyn ei fyd y sawl sy'n effro, a'i ddillad ganddo'n barod, rhag iddo fynd o amgylch yn noeth a'i weld yn ei warth.)

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 16