Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 15:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwelais arwydd arall yn y nef, un mawr a rhyfeddol: saith angel a chanddynt saith bla—y rhai olaf, oherwydd ynddynt hwy y cwblhawyd digofaint Duw.

2. Gwelais rywbeth tebyg i fôr o wydr, a thân yn gwau drwyddo, ac yn sefyll ar y môr o wydr gwelais orchfygwyr y bwystfil a'i ddelw a rhif ei enw, yn dal telynau Duw.

3. Yr oeddent yn canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:“Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd,O Arglwydd Dduw hollalluog;cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd,O Frenin y cenhedloedd.

4. Pwy nid ofna, Arglwydd,a gogoneddu dy enw?Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd.Daw'r holl genhedloeddac addoli ger dy fron,oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu.”

5. Ar ôl hyn edrychais, ac agorwyd teml pabell y dystiolaeth yn y nef.

6. Ac allan o'r deml daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt. Yr oeddent wedi eu gwisgo â lliain disgleirwych, a gwregys aur am eu dwyfron.

7. Yna rhoddodd un o'r pedwar creadur byw saith ffiol aur i'r saith angel, yn llawn o lid Duw, yr hwn sy'n byw byth bythoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 15