Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 14:4-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Dyma'r rhai sydd heb eu halogi eu hunain â merched, oherwydd diwair ydynt. Dyma'r rhai sy'n dilyn yr Oen i ble bynnag yr â. Prynwyd hwy o blith y ddynoliaeth, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen;

5. ni chafwyd celwydd yn eu genau; y maent yn ddi-fai.

6. Yna gwelais angel arall yn hedfan yng nghanol y nef, a chanddo efengyl dragwyddol i'w chyhoeddi i breswylwyr y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl.

7. Dywedodd â llais uchel, “Ofnwch Dduw, a rhowch iddo ogoniant, oherwydd daeth yr awr iddo farnu. Addolwch yr hwn a wnaeth nef a daear, y môr a ffynhonnau'r dyfroedd.”

8. Dilynodd angel arall, yr ail, a dweud, “Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr, y ddinas honno sydd wedi peri i'r holl genhedloedd yfed gwin llid ei phuteindra.”

9. Dilynodd angel arall hwy, y trydydd, a dweud â llais uchel, “Pwy bynnag sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law,

10. caiff yfed gwin llid Duw, wedi ei arllwys yn ei lawn gryfder i gwpan ei ddigofaint, a chaiff ei boenydio mewn tân a brwmstan gerbron angylion sanctaidd a cherbron yr Oen.

11. Bydd mwg eu poenedigaeth yn codi byth bythoedd, ac ni bydd gorffwys na dydd na nos i'r rhai sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, nac i'r rhai sy'n derbyn nod ei enw ef.”

12. Yma y mae angen dyfalbarhad y saint, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw a'u ffydd yn Iesu.

13. Yna clywais lais o'r nef yn dweud, “Ysgrifenna: ‘O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy'n marw yn yr Arglwydd.’ ‘Ie,’ medd yr Ysbryd, ‘cânt orffwys o'u llafur, oherwydd y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwy.’ ”

14. Yna edrychais, ac wele gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl un fel mab dyn, a chanddo goron aur ar ei ben a chryman miniog yn ei law.

15. Daeth angel arall allan o'r deml, yn galw â llais uchel ar yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Bwrw dy gryman i'r fedel, oherwydd daeth yr awr i fedi; y mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed.”

16. A dyma'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl yn bwrw ei gryman i'r ddaear, a medwyd y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 14