Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Y Wraig a'r Ddraig

1. Gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed a choron o ddeuddeg seren ar ei phen.

2. Yr oedd yn feichiog, ac yn gweiddi yn ei gwewyr a'i hing am gael esgor.

3. Yna gwelwyd arwydd arall yn y nef, draig fflamgoch fawr, a chanddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith diadem.

4. Ysgubodd ei chynffon draean o sêr y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni.

5. Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd â gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef.

6. Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau.

7. Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau,

8. ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef.

9. Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.

10. Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud:“Hon yw awr gwaredigaeth a gallua brenhiniaeth ein Duw ni,ac awdurdod ei Grist ef,oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr,yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.

11. Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oena thrwy air eu tystiolaeth,yn ddibris o'u bywyd hyd angau.

12. Am hynny, gorfoleddwch, chwi'r nefoedd,a chwi sy'n preswylio ynddynt!Gwae chwi'r ddaear a'r môr,oherwydd disgynnodd y diafol arnochyn fawr ei lid,o wybod mai byr yw'r amser sydd ganddo!”

13. Pan welodd y ddraig ei bod wedi ei bwrw i'r ddaear, aeth i erlid y wraig a esgorodd ar y plentyn gwryw.

14. Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff.

15. Poerodd y sarff o'i genau afon o ddŵr ar ôl y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif.

16. Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau.

17. Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu.

18. Ac yna safodd ar dywod y môr.