Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 1:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Yn ei law dde yr oedd ganddo saith seren, ac o'i enau yr oedd cleddyf llym daufiniog yn dod allan, ac yr oedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul yn ei anterth.

17. Pan welais ef, syrthiais wrth ei draed fel un marw; gosododd yntau ei law dde arnaf, a dywedodd, “Paid ag ofni; myfi yw'r cyntaf a'r olaf,

18. a'r Un byw; bûm farw, ac wele, yr wyf yn fyw byth bythoedd, ac y mae gennyf allweddau Marwolaeth a Hades.

19. Ysgrifenna, felly, y pethau a welaist, y pethau sydd, a'r pethau sydd i fod ar ôl hyn.

20. Dyma ystyr dirgel y saith seren a welaist ar fy llaw dde a'r saith ganhwyllbren aur: angylion y saith eglwys yw'r saith seren, a'r saith eglwys yw'r saith ganhwyllbren.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 1