Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 4:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Chwi feistri, rhowch i'ch caethweision yr hyn sy'n gyfiawn a theg, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.

2. Parhewch i weddïo yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar.

3. Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn.

4. Gweddïwch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru.

5. Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle.

6. Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.

7. Fe gewch yr holl hanes amdanaf gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon, a'm cydwas yn yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 4