Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 1:7-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Dysgasoch hyn oddi wrth Epaffras, ein cydwas annwyl, sy'n weinidog ffyddlon i Grist ar eich rhan,

8. ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd.

9. Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw,

10. er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw.

11. Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim,

12. gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.

13. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab,

14. yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.

15. Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;

16. oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.

17. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.

18. Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth.

19. Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef,

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 1