23. Ond y mae'n rhaid ichwi barhau yn eich ffydd, yn gadarn a diysgog, a pheidio â symud oddi wrth obaith yr Efengyl a glywsoch. Dyma'r Efengyl a bregethwyd ym mhob rhan o'r greadigaeth dan y nef, a'r Efengyl y deuthum i, Paul, yn weinidog iddi.
24. Yr wyf yn awr yn llawen yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cwblhau yn fy nghnawd yr hyn sy'n ôl o gystuddiau Crist, er mwyn ei gorff, sef yr eglwys.
25. Fe ddeuthum i yn weinidog i'r eglwys yn ôl yr oruchwyliaeth a roddodd Duw i mi er eich mwyn chwi, i gyhoeddi gair Duw yn ei gyflawnder,
26. sef y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd ac ers cenedlaethau, ond sydd yn awr wedi ei amlygu i'w saint.
27. Ewyllysiodd Duw hysbysu iddynt hwy beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd. Dyma'r dirgelwch: Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant.
28. Ei gyhoeddi ef yr ydym ni, gan rybuddio pawb, a dysgu pawb ym mhob doethineb, er mwyn cyflwyno pob un yn gyflawn yng Nghrist.