Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 1:12-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.

13. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab,

14. yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.

15. Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;

16. oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.

17. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.

18. Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth.

19. Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef,

20. a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.

21. Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd,

22. yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 1