Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:30-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Pan ddaeth y credinwyr i wybod, aethant ag ef i lawr i Gesarea, a'i anfon ymaith i Darsus.

31. Yr oedd yr eglwys yn awr, drwy holl Jwdea a Galilea a Samaria, yn cael heddwch. Yr oedd yn cryfhau, a thrwy rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, yn mynd ar gynnydd.

32. Pan oedd Pedr yn mynd ar daith ac yn galw heibio i bawb, fe ddaeth i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda.

33. Yno cafodd ryw ddyn o'r enw Aeneas, a oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei fatras, wedi ei barlysu.

34. Dywedodd Pedr wrtho, “Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di; cod, a chyweiria dy wely.” Ac fe gododd ar unwaith.

35. Gwelodd holl drigolion Lyda a Saron ef, a throesant at yr Arglwydd.

36. Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau.

37. Yr adeg honno fe glafychodd, a bu farw. Golchasant ei chorff a'i roi i orwedd mewn ystafell ar y llofft.

38. A chan fod Lyda yn agos i Jopa, pan glywodd y disgyblion fod Pedr yno, anfonasant ddau ddyn ato i ddeisyf arno, “Tyrd drosodd atom heb oedi.”

39. Cododd Pedr ac aeth gyda hwy. Wedi iddo gyrraedd, aethant ag ef i fyny i'r ystafell, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos y crysau a'r holl ddillad yr oedd Dorcas wedi eu gwneud pan oedd gyda hwy.

40. Ond trodd Pedr bawb allan, a phenliniodd a gweddïo, a chan droi at y corff meddai, “Tabitha, cod.” Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Pedr, cododd ar ei heistedd.

41. Rhoddodd yntau ei law iddi a'i chodi, a galwodd y saint a'r gwragedd gweddwon, a'i chyflwyno iddynt yn fyw.

42. Aeth y peth yn hysbys drwy Jopa i gyd, a daeth llawer i gredu yn yr Arglwydd.

43. Arhosodd Pedr am beth amser yn Jopa gyda rhyw farcer o'r enw Simon.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9