Hen Destament

Testament Newydd

Actau 7:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gofynnodd yr archoffeiriad: “Ai felly y mae?”

2. Meddai yntau: “Frodyr a thadau, clywch. Ymddangosodd Duw'r gogoniant i'n tad ni, Abraham, ac yntau yn Mesopotamia cyn iddo ymsefydlu yn Haran,

3. a dywedodd wrtho, ‘Dos allan o'th wlad ac oddi wrth dy berthnasau, a thyrd i'r wlad a ddangosaf iti.’

4. Yna fe aeth allan o wlad y Caldeaid, ac ymsefydlodd yn Haran. Oddi yno, wedi i'w dad farw, fe symudodd Duw ef i'r wlad hon, lle'r ydych chwi'n preswylio yn awr.

5. Eto ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, dim lled troed. Addo a wnaeth ei rhoi iddo ef i'w meddiannu, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl, ac yntau heb blentyn.

6. Llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei ddisgynyddion yn alltudion mewn gwlad ddieithr, a chânt eu caethiwo a'u cam-drin am bedwar can mlynedd.

7. Ac fe ddof fi â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu,’ meddai Duw, ‘ac wedi hynny dônt allan, ac addolant fi yn y lle hwn.’

8. A rhoddodd iddo gyfamod enwaediad. Felly, wedi geni iddo Isaac, enwaedodd arno yr wythfed dydd. Ac i Isaac ganwyd Jacob, ac i Jacob y deuddeg patriarch.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 7