5. Wrth glywed y geiriau hyn syrthiodd Ananias yn farw, a daeth ofn mawr ar bawb a glywodd.
6. A chododd y dynion ifainc, a rhoi amdo amdano, a mynd ag ef allan a'i gladdu.
7. Aeth rhyw deirawr heibio, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod beth oedd wedi digwydd.
8. Dywedodd Pedr wrthi, “Dywed i mi, ai am hyn a hyn y gwerthasoch y tir?” “Ie,” meddai hithau, “am hyn a hyn.”
9. Ac meddai Pedr wrthi, “Sut y bu ichwi gytuno i roi prawf ar Ysbryd yr Arglwydd? Dyma wrth y drws sŵn traed y rhai a fu'n claddu dy ŵr, ac fe ânt â thithau allan hefyd.”
10. Ar unwaith syrthiodd hithau wrth ei draed, a marw. Daeth y dynion ifainc i mewn a'i chael hi'n gorff, ac aethant â hi allan, a'i chladdu gyda'i gŵr.
11. Daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywodd am hyn.
12. Trwy ddwylo'r apostolion gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl. Yr oeddent oll yn arfer dod ynghyd yng Nghloestr Solomon.
13. Nid oedd neb arall yn meiddio ymlynu wrthynt, ond yr oedd y bobl yn eu mawrygu,
14. ac yr oedd credinwyr yn cael eu chwanegu fwyfwy at yr Arglwydd, luoedd o wŷr a gwragedd.
15. Yn wir, yr oeddent hyd yn oed yn dod â'r cleifion allan i'r heolydd, ac yn eu gosod ar welyau a matresi, fel pan fyddai Pedr yn mynd heibio y câi ei gysgod o leiaf ddisgyn ar ambell un ohonynt.