Hen Destament

Testament Newydd

Actau 3:12-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. A phan welodd Pedr hyn, fe anerchodd y bobl: “Chwi Israeliaid, pam yr ydych yn rhyfeddu at hyn? Pam yr ydych yn syllu arnom ni, fel petaem wedi peri iddo gerdded trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni ein hunain?

13. Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob, Duw ein tadau ni, sydd wedi gogoneddu ei Was Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi a'i wadu gerbron Pilat, wedi i hwnnw benderfynu ei ryddhau.

14. Eithr chwi, gwadasoch yr Un sanctaidd a chyfiawn, a deisyf, fel ffafr i chwi, ryddhau llofrudd.

15. Lladdasoch Awdur bywyd, ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw. O hyn yr ydym ni'n dystion.

16. Ar sail ffydd yn ei enw ef y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld a'i adnabod, a'r ffydd sydd drwy Iesu a roddodd iddo'r llwyr wellhad hwn yn eich gŵydd chwi i gyd.

17. Yn awr, frodyr, gwn mai gweithredu mewn anwybodaeth a wnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau.

18. Ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau'r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Feseia.

19. Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad,

20. ac yr anfona ef y Meseia a benodwyd i chwi, sef Iesu,

21. yr hwn y mae'n rhaid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth a lefarodd Duw trwy enau ei broffwydi sanctaidd erioed.

22. Dywedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel fi. Arno ef yr ydych i wrando ym mhob peth a lefara wrthych.

23. A phob enaid na wrendy ar y proffwyd hwnnw, fe'i llwyr ddifodir o blith y bobl.’

Darllenwch bennod gyflawn Actau 3