Hen Destament

Testament Newydd

Actau 25:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Fodd bynnag, os wyf yn droseddwr, ac os wyf wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu marwolaeth, nid wyf yn ceisio osgoi dedfryd marwolaeth. Ond os yw cyhuddiadau'r bobl hyn yn fy erbyn yn ddisail, ni all neb fy nhrosglwyddo iddynt fel ffafr. Yr wyf yn apelio at Gesar.”

12. Yna, wedi iddo drafod y mater â'i gynghorwyr, atebodd Ffestus: “At Gesar yr wyt wedi apelio; at Gesar y cei fynd.”

13. Ymhen rhai dyddiau daeth y Brenin Agripa a Bernice i lawr i Gesarea i groesawu Ffestus.

14. A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, cyflwynodd Ffestus achos Paul i sylw'r brenin. “Y mae yma ddyn,” meddai, “wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor,

15. a phan oeddwn yn Jerwsalem gosododd y prif offeiriaid a henuriaid yr Iddewon ei achos ef ger fy mron, a gofyn am ei gondemnio.

16. Atebais hwy nad oedd yn arfer gan Rufeinwyr drosglwyddo unrhyw un fel ffafr cyn bod y cyhuddedig yn dod wyneb yn wyneb â'i gyhuddwyr, ac yn cael cyfle i'w amddiffyn ei hun yn erbyn y cyhuddiad.

17. Felly, pan ddaethant ynghyd yma, heb oedi dim cymerais fy lle drannoeth yn y llys, a gorchymyn dod â'r dyn gerbron.

18. Pan gododd ei gyhuddwyr i'w erlyn, nid oeddent yn ei gyhuddo o'r un o'r troseddau a ddisgwyliwn i.

19. Ond rhyw ddadleuon oedd ganddynt ag ef ynghylch eu crefydd eu hunain, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, ond y mynnai Paul ei fod yn fyw.

20. A chan fy mod mewn penbleth ynglŷn â'r ddadl ar y pethau hyn, gofynnais iddo a oedd yn dymuno mynd i Jerwsalem, a chael ei farnu amdanynt yno.

21. Ond gan i Paul apelio am gael ei gadw dan warchodaeth, i gael dyfarniad gan yr Ymerawdwr, gorchmynnais ei gadw felly nes imi ei anfon at Gesar.”

22. Meddai Agripa wrth Ffestus, “Mi hoffwn innau glywed y dyn.” Meddai yntau, “Fe gei ei glywed yfory.”

23. Trannoeth, felly, daeth Agripa a Bernice, yn fawr eu rhwysg, a mynd i mewn i'r llys ynghyd â chapteiniaid a gwŷr amlwg y ddinas; ac ar orchymyn Ffestus, daethpwyd â Paul gerbron.

24. Ac meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a chwi oll sydd yma gyda ni, yr ydych yn gweld y dyn hwn, y gwnaeth holl liaws yr Iddewon gais gennyf yn ei gylch, yn Jerwsalem ac yma, gan weiddi na ddylai gael byw ddim mwy.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 25