Hen Destament

Testament Newydd

Actau 23:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Bu gweiddi mawr, a chododd rhai o'r ysgrifenyddion oedd yn perthyn i blaid y Phariseaid, a dadlau'n daer, gan ddweud, “Nid ydym yn cael dim drwg yn y dyn hwn; a beth os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel?”

10. Ac wrth i'r ddadl boethi, daeth ofn ar y capten rhag i Paul gael ei dynnu'n ddarnau ganddynt, a gorchmynnodd i'r milwyr ddod i lawr i'w gipio ef o'u plith hwy, a mynd ag ef i'r pencadlys.

11. Y noson honno, safodd yr Arglwydd yn ei ymyl a dweud, “Cod dy galon! Oherwydd fel y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae'n rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.”

12. Pan ddaeth yn ddydd, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn: aethant ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed dim nes y byddent wedi lladd Paul.

13. Yr oedd mwy na deugain wedi gwneud y cydfwriad hwn.

14. Aethant at y prif offeiriaid a'r henuriaid, a dweud, “Yr ydym wedi mynd ar ein llw mwyaf difrifol i beidio â phrofi dim bwyd nes y byddwn wedi lladd Paul.

15. Rhowch chwi, felly, ynghyd â'r Sanhedrin, rybudd yn awr i'r capten, iddo ddod ag ef i lawr atoch, ar yr esgus eich bod am ymchwilio yn fanylach i'w achos. Ac yr ydym ninnau yn barod i'w ladd ef cyn iddo gyrraedd.”

16. Ond fe glywodd mab i chwaer Paul am y cynllwyn, ac aeth i'r pencadlys, a mynd i mewn ac adrodd yr hanes wrth Paul.

17. Galwodd Paul un o'r canwriaid ato, ac meddai, “Dos â'r llanc yma at y capten; y mae ganddo rywbeth i'w ddweud wrtho.”

18. Felly cymerodd y canwriad ef, a mynd ag ef at y capten, ac meddai, “Galwodd y carcharor Paul fi, a gofyn imi ddod â'r llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthyt.”

19. Cymerodd y capten afael yn ei law, a mynd ag ef o'r neilltu a holi, “Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w ddweud wrthyf?”

20. Meddai yntau, “Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti fynd â Paul i lawr yfory i'r Sanhedrin, ar yr esgus fod y rheini am holi yn fanylach yn ei gylch.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 23