Hen Destament

Testament Newydd

Actau 23:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Syllodd Paul ar y Sanhedrin, ac meddai, “Frodyr, yr wyf fi wedi byw â chydwybod lân gerbron Duw hyd y dydd hwn.”

2. Ond gorchmynnodd Ananias yr archoffeiriad i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ar ei geg.

3. Yna dywedodd Paul wrtho, “Y mae Duw yn mynd i'th daro di, tydi bared gwyngalchog. A wyt ti'n eistedd i'm barnu i yn ôl y Gyfraith, ac yna'n torri'r Gyfraith trwy orchymyn fy nharo?”

4. Ond dywedodd y rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, “A wyt ti'n beiddio sarhau archoffeiriad Duw?”

5. Ac meddai Paul, “Ni wyddwn, frodyr, mai'r archoffeiriad ydoedd; oherwydd y mae'n ysgrifenedig, ‘Paid â dweud yn ddrwg am bennaeth dy bobl.’ ”

6. Sylweddolodd Paul fod y naill ran yn Sadwceaid, a'r llall yn Phariseaid, a dechreuodd lefaru'n uchel yn y Sanhedrin: “Frodyr, Pharisead wyf fi, a mab i Pharisead. Ynghylch gobaith am atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf.”

7. Wedi iddo ddweud hyn, aeth yn ddadl rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid, a rhannwyd y cynulliad.

8. Oherwydd y mae'r Sadwceaid yn dweud nad oes nac atgyfodiad nac angel nac ysbryd, ond y mae'r Phariseaid yn eu cydnabod i gyd.

9. Bu gweiddi mawr, a chododd rhai o'r ysgrifenyddion oedd yn perthyn i blaid y Phariseaid, a dadlau'n daer, gan ddweud, “Nid ydym yn cael dim drwg yn y dyn hwn; a beth os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel?”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 23