Hen Destament

Testament Newydd

Actau 22:19-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Dywedais innau, ‘Arglwydd, y maent hwy'n gwybod i mi fod o synagog i synagog yn carcharu ac yn fflangellu'r rhai oedd yn credu ynot ti.

20. A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.’

21. A dywedodd wrthyf, ‘Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.’ ”

22. Yr oeddent wedi gwrando arno hyd at y gair hwn, ond yna dechreusant weiddi, “Ymaith ag ef oddi ar y ddaear! Y mae'n warth fod y fath ddyn yn cael byw.”

23. Fel yr oeddent yn gweiddi ac yn ysgwyd eu dillad ac yn taflu llwch i'r awyr,

24. gorchmynnodd y capten ei ddwyn ef i mewn i'r pencadlys, a'i holi trwy ei chwipio, er mwyn cael gwybod pam yr oeddent yn bloeddio felly yn ei erbyn.

25. Ond pan glymwyd ef i'w fflangellu, dywedodd Paul wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw, “A oes gennych hawl i fflangellu dinesydd Rhufeinig, a hynny heb farnu ei achos?”

26. Pan glywodd y canwriad hyn, aeth at y capten, a rhoi adroddiad iddo, gan ddweud, “Beth yr wyt ti am ei wneud? Y mae'r dyn yma yn ddinesydd Rhufeinig.”

27. Daeth y capten ato, ac meddai, “Dywed i mi, a wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?” “Ydwyf,” meddai yntau.

28. Atebodd y capten, “Mi delais i swm mawr i gael y ddinasyddiaeth hon.” Ond dywedodd Paul, “Cefais i fy ngeni iddi.”

29. Ar hyn, ciliodd y rhai oedd ar fin ei holi oddi wrtho. Daeth ofn ar y capten hefyd pan ddeallodd mai dinesydd Rhufeinig ydoedd, ac yntau wedi ei rwymo ef.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 22