Hen Destament

Testament Newydd

Actau 22:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Frodyr a thadau, gwrandewch ar f'amddiffyniad ger eich bron yn awr.”

2. Pan glywsant mai yn iaith yr Iddewon yr oedd yn eu hannerch, rhoesant wrandawiad tawelach iddo. Ac meddai,

3. “Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy nghodi yn y ddinas hon. Cefais fy addysg wrth draed Gamaliel yn ôl llythyren Cyfraith ein hynafiaid, ac yr wyf yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.

4. Erlidiais y Ffordd hon hyd at ladd, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd,

5. fel y mae'r archoffeiriad a holl Gyngor yr henuriaid yn dystion i mi; oddi wrthynt hwy yn wir y derbyniais lythyrau at ein cyd-Iddewon yn Namascus, a chychwyn ar daith i ddod â'r rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerwsalem i'w cosbi.

6. “Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch.

7. Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?’

8. Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’

9. Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf.

10. A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’

Darllenwch bennod gyflawn Actau 22