Hen Destament

Testament Newydd

Actau 2:36-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”

37. Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?”

38. Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd.

39. Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.”

40. Ac â llawer o eiriau eraill y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, “Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon.”

41. Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau.

42. Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau.

43. Daeth ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy'r apostolion.

44. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin.

45. Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un.

46. A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydfwyta mewn llawenydd a symledd calon,

47. dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 2