Hen Destament

Testament Newydd

Actau 2:29-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. “Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn.

30. Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd,

31. rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd:“ ‘Ni adawyd ef yn Hades,ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’

32. “Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono.

33. Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed.

34. Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud:“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulaw,

35. nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’

36. “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”

37. Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?”

38. Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd.

39. Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.”

40. Ac â llawer o eiriau eraill y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, “Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 2