Hen Destament

Testament Newydd

Actau 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle,

2. ac yn sydyn fe ddaeth o'r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle'r oeddent yn eistedd.

3. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt;

4. a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.

5. Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem Iddewon, pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef;

6. ac wrth glywed y sŵn hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt, ac yr oeddent wedi drysu'n lân am fod pob un ohonynt yn eu clywed hwy yn siarad yn ei iaith ei hun.

7. Yr oeddent yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru?

Darllenwch bennod gyflawn Actau 2