30. Yn wir, edrychodd Duw heibio i amserau anwybodaeth; ond yn awr y mae'n gorchymyn i bawb ym mhob man edifarhau,
31. oblegid gosododd ddiwrnod pryd y bydd yn barnu'r byd mewn cyfiawnder, trwy ŵr a benododd, ac fe roes sicrwydd o hyn i bawb trwy ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw.”
32. Pan glywsant am atgyfodiad y meirw, dechreuodd rhai wawdio, ond dywedodd eraill, “Cawn dy wrando ar y pwnc hwn rywdro eto.”
33. Felly aeth Paul allan o'u mysg.