Hen Destament

Testament Newydd

Actau 15:6-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma.

7. Ar ôl llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: “Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu.

8. Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Glân yr un fath ag i ninnau;

9. ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd.

10. Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn?

11. Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd.”

12. Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.

13. Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.

14. Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw.

15. Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno â hyn, fel y mae'n ysgrifenedig:

16. “ ‘Ar ôl hyn dychwelaf,ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd,ailadeiladaf ei hadfeilion,a'i hatgyweirio,

17. fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill,a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,’medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn

18. yn hysbys erioed.”

19. “Felly fy marn i yw na ddylem boeni'r rhai o blith y Cenhedloedd sy'n troi at Dduw,

20. ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed.

21. Oherwydd y mae gan Moses, er yr oesau cyntaf, rai sy'n ei bregethu ef ym mhob tref, ac fe'i darllenir yn y synagogau bob Saboth.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 15