Hen Destament

Testament Newydd

Actau 13:43-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. Wedi i'r gynulleidfa gael ei gollwng, aeth llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid oedd yn addolwyr Duw, ar ôl Paul a Barnabas, a buont hwythau yn llefaru wrthynt ac yn eu hannog i lynu wrth ras Duw.

44. Y Saboth dilynol, daeth bron yr holl ddinas ynghyd i glywed gair yr Arglwydd.

45. Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd fe'u llanwyd â chenfigen, ac yr oeddent yn gwrth-ddweud y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, gan ei ddifenwi.

46. Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy: “I chwi,” meddent, “yr oedd yn rhaid llefaru gair Duw yn gyntaf. Ond gan eich bod yn ei wrthod, ac yn eich dyfarnu eich hunain yn annheilwng o'r bywyd tragwyddol, dyma ni'n troi at y Cenhedloedd.

47. Oblegid hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni:“ ‘Gosodais di yn oleuni'r Cenhedloedd,iti fod yn gyfrwng iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.’ ”

48. Wrth glywed hyn, yr oedd y Cenhedloedd yn llawenychu ac yn gogoneddu gair yr Arglwydd, a chredodd cynifer ag oedd wedi eu penodi i fywyd tragwyddol.

49. Yr oedd gair yr Arglwydd yn ymdaenu drwy'r holl fro.

50. Ond fe gyffrôdd yr Iddewon y gwragedd bonheddig oedd yn addolwyr Duw, a phrif wŷr y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a'u bwrw allan o'u hardal.

51. Ysgydwasant hwythau'r llwch oddi ar eu traed yn eu herbyn, a daethant i Iconium.

52. A llanwyd y disgyblion â llawenydd ac â'r Ysbryd Glân.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 13