Hen Destament

Testament Newydd

Actau 12:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Wedi dal Pedr, fe'i rhoddodd yng ngharchar, a'i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i'w warchod, gan fwriadu dod ag ef allan gerbron y cyhoedd ar ôl y Pasg.

5. Felly yr oedd Pedr dan warchodaeth yn y carchar. Ond yr oedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw ar ei ran.

6. Pan oedd Herod ar fin ei ddwyn gerbron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws yn gwarchod y carchar.

7. A dyma angel yr Arglwydd yn sefyll yno, a goleuni'n disgleirio yn y gell. Trawodd yr angel Pedr ar ei ystlys, a'i ddeffro a dweud, “Cod ar unwaith.” A syrthiodd ei gadwynau oddi ar ei ddwylo.

8. Meddai'r angel wrtho, “Rho dy wregys a gwisg dy sandalau.” Ac felly y gwnaeth. Meddai wrtho wedyn, “Rho dy fantell amdanat, a chanlyn fi.”

9. Ac fe'i canlynodd oddi yno. Ni wyddai fod yr hyn oedd yn cael ei gyflawni drwy'r angel yn digwydd mewn gwirionedd, ond yr oedd yn tybio mai gweld gweledigaeth yr oedd.

10. Aethant heibio i'r wyliadwriaeth gyntaf a'r ail, a daethant at y porth haearn oedd yn arwain i'r ddinas; agorodd hwn iddynt ohono'i hun, ac aethant allan a mynd rhagddynt hyd un heol. Yna'n ebrwydd ymadawodd yr angel ag ef.

11. Wedi i Pedr ddod ato'i hun, fe ddywedodd, “Yn awr mi wn yn wir i'r Arglwydd anfon ei angel a'm gwared i o law Herod a rhag popeth yr oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl.”

12. Wedi iddo sylweddoli hyn, aeth i dŷ Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle'r oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gweddïo.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 12