Hen Destament

Testament Newydd

Actau 12:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Dywedasant wrthi, “Rwyt ti'n wallgof.” Ond taerodd hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel ydyw.”

16. Yr oedd Pedr yn dal i guro, ac wedi iddynt agor a'i weld, fe'u syfrdanwyd.

17. Amneidiodd yntau arnynt â'i law i fod yn ddistaw, ac adroddodd wrthynt sut yr oedd yr Arglwydd wedi dod ag ef allan o'r carchar. Dywedodd hefyd, “Mynegwch hyn i Iago a'r brodyr.” Yna ymadawodd, ac aeth ymaith i le arall.

18. Wedi iddi ddyddio, yr oedd cynnwrf nid bychan ymhlith y milwyr: beth allai fod wedi digwydd i Pedr?

19. Wedi i Herod chwilio amdano a methu ei gael, holodd y gwylwyr a gorchmynnodd eu dienyddio. Yna aeth i lawr o Jwdea i Gesarea, ac aros yno.

20. Yr oedd Herod yn gynddeiriog yn erbyn pobl Tyrus a Sidon. Ond daethant hwy yn unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, siambrlen y brenin, o'u plaid, deisyfasant heddwch, am fod eu gwlad hwy yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.

21. Ar ddiwrnod penodedig, â'i wisg frenhinol amdano, eisteddodd Herod ar ei orsedd a dechrau eu hannerch;

22. a bloeddiodd y bobl, “Llais Duw ydyw, nid llais dyn!”

23. Ar unwaith trawodd angel yr Arglwydd ef, am nad oedd wedi rhoi'r gogoniant i Dduw; ac fe'i hyswyd gan bryfed, a threngodd.

24. Yr oedd gair yr Arglwydd yn cynyddu ac yn mynd ar led.

25. Dychwelodd Barnabas a Saul o Jerwsalem wedi iddynt gyflawni eu gwaith, a chymryd gyda hwy Ioan, a gyfenwid Marc.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 12